Franz Schubert

Cyfansoddwr Awstraidd oedd Franz Peter Schubert (31 Ionawr 179719 Tachwedd 1828).

Ganed Schubert yn Himmelpfortgrund, gerllaw Fienna, y trydydd ar ddeg o un ar bymtheg o blant. Roedd eisoes yn cael gwersi cerddoriaeth gan ei dad, Franz Theodor Schubert, pan oedd yn chwech oed. Ym mis Hydref 1808, daeth yn aelod o'r côr yn Hofkapelle Fienna. Ceir y dyddiad 8 Ebrill - 1 Mai 1810 ar un o'i gyfansoddiadau cynnar.

Bu'n athro cynorthwyol am gyfnod, ond fel arall nid oedd ganddo ffynhonnell ddibynadwy o arian. Bu yn Hwngari am gyfnod yn 1818 gweithio fel athro cerddorol i deulu Esterházy. Dim ond wedi ei farwolaeth y daeth ei gerddoriaeth yn wirioneddol boblogaidd, ond perfformiwyd dwy opera o'i waith yn 1820 a chafodd lwyddiant gyda chyhoeddi Opus 1–7 a 10–12 yn 1821/2. Erbyn hyn roedd ei iechyd yn dirywio. Bu farw ar 19 Tachwedd 1828 () wedi pythefnos o dwymyn. Claddwyd ef yn mynwent Währinger, Fienna, heb fod ymhell o fedd Ludwig van Beethoven. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 183 ar gyfer chwilio 'Schubert, Franz 1797-1828', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau